Wyneb y Ddrycin, i - Hedd Wyn, Yr Ysgwrn a'r Rhyfel Mawr: Hedd Wyn, Yr Ysgwrn a'r Rhyfel Mawr (Paperback)
  • Wyneb y Ddrycin, i - Hedd Wyn, Yr Ysgwrn a'r Rhyfel Mawr: Hedd Wyn, Yr Ysgwrn a'r Rhyfel Mawr (Paperback)
zoom

Wyneb y Ddrycin, i - Hedd Wyn, Yr Ysgwrn a'r Rhyfel Mawr: Hedd Wyn, Yr Ysgwrn a'r Rhyfel Mawr (Paperback)

(author)
£10.95
Paperback 144 Pages
Published: 27/04/2017
  • We can order this from the publisher

Usually dispatched within 4-5 weeks

  • This item has been added to your basket

A volume that presents a vivid view of community life in Trawsfynydd at the beginning of the twentieth century, being the life Hedd Wyn experienced at his home in Yr Ysgwrn before the outbreak of the First World War. Comprising a select bibliography and over 60 images.

Publisher: Cyhoeddiadau Barddas
ISBN: 9781906396985
Number of pages: 144
Dimensions: 210 x 160 mm


MEDIA REVIEWS

A hithau’n gan mlynedd ers i Ellis Humphrey Evans, neu Hedd Wyn, ennill cystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw, does dim rhyfedd fod yna alw mawr am ddeunydd darllen amdano eleni. Ac mae’r gyfrol I Wyneb y Ddrycin yn gyfraniad pwysig at ein hawch i wybod mwy am y dyn arbennig hwn ac i ddod i’w adnabod yn well. Ond nid bywgraffiad yn unig a geir yma o bell ffordd, oherwydd yn ogystal â chyflwyno ffeithiau difyr am Hedd Wyn ei hun, ceir cyflwyniad diddorol hefyd i’r cyfnod enbydus yma a’r dylanwadau a fu arno fel person ac fel bardd. Mae’n gyfrol hardd a deniadol iawn, ac yn un sy’n dangos ôl ymchwil fanwl i hanes teulu, cydnabod a bro Hedd Wyn. A dewiswyd awdur perffaith ar gyfer y gwaith. Mae Haf Llewelyn eisoes yn nofelydd poblogaidd ac enillodd ei chyfrol Diffodd y Sêr, nofel yn cyflwyno hanes Hedd Wyn i blant yn eu harddegau, wobr Tir na n-Og yn 2014. Mae’r penodau’n rhai byrion sy’n ddigon hawdd eu darllen ar un gwynt, bron. Mae’r ysgrifennu’n goeth ac apelgar, a'r hanes wedi ei gyflwyno mewn ffordd gryno a darllenadwy. Teimlais fy mod wedi dysgu llawer am Hedd Wyn a’i gyfnod o’r cychwyn cyntaf. Er enghraifft, roedd yn un o un ar ddeg o blant, a dau blentyn arall yn farw-anedig, a byddai’n ysgrifennu darnau byr o farddoniaeth ar bapurau blêr a’u stwffio i wahanol fannau o gwmpas yr ardal mewn cloddiau a waliau'r fro. Er na chafodd fawr o addysg ffurfiol, roedd yn ddarllenwr brwd ac fe gafodd ei annog gan ei rieni i ddilyn ei ddiddordebau llenyddol, a hynny’n aml ar draul gwneud gorchwylion ar y fferm! Mae’n debyg na fyddai’n anarferol iddo ysgrifennu drwy’r nos a mynd i’r gwely wrth i weddill y teulu godi. Er y cyfeirir ato’n aml fel bugail, mae’n bur debyg taw amaethwr anfoddog oedd e. Roedd yn feirniad llym o’i waith ei hun a byddai’n astudio beirdd fel T. Gwynn Jones a’i arwr R. Williams Parry, yn ogystal â beirdd Saesneg y bedwaredd ganrif ar bymtheg, er mwyn mireinio ei grefft ei hun. Mae’r cyferbyniad rhwng y bywyd tawel, digynnwrf oedd yn bodoli yng nghefn gwlad Cymru a digwyddiadau erchyll y rhyfel yn cael eu cyfleu’n effeithiol iawn. Dyma gymdeithas gapelgar, ddiwylliedig oedd yn gweld y newid yn digwydd o flaen eu llygaid, gan fod gwersyll milwrol gerllaw, ym Mronaber. Mae yna dipyn o eironi i’r hanes fod Capel Pen-stryd wedi ei ddifrodi gan y gynnau o Fronaber. Ac er bod Hedd Wyn wedi ffieiddio at y weithred, doedd hi ddim yn hir iawn wedyn cyn iddo ef ymrestru. Ond doedd fawr o ddewis ganddo erbyn hynny mewn gwirionedd; roedd gweithgarwch milwrol o bob math o’i gwmpas, gydag ymweliadau rheolaidd gan bobl ddylanwadol yn areithio’n danbaid o blaid y rhyfel, ac adroddiadau cyson yn y wasg yn arwain at sgyrsiau dyddiol ymysg trigolion yr ardal. Ac mae cyfnod byr Hedd Wyn yn y fyddin, ei farwolaeth erchyll a’r cadeirio hynod ddramatig ym Mhenbedw yn cael eu cyflwyno’n ddifyr, er gwaethaf y tristwch mawr oedd ymhlyg yn yr hanes. Yn ystod y darllen down i ddeall pa mor adnabyddus a phoblogaidd oedd Hedd Wyn yn ardaloedd Trawsfynydd a Blaenau Ffestiniog cyn ei farwolaeth. Daw’n amlwg fod gan bobl y broydd hynny feddwl mawr ohono a'u bod yn dechrau gwerthfawrogi ei ddoniau fel bardd cyn i ni ddechrau dadansoddi ei waith. Yn wir, roedd erthyglau mewn cylchgronau’n cyfeirio ato fel 'ein Hedd Wyn'. Mae’r gyfrol yn hynod ddeniadol gyda phytiau o bapurau newydd a chylchgronau, llythyron, ffotograffau, atgofion, posteri, cardiau post, cyfweliadau a llawer o farddoniaeth yn rhoi diwyg ffres a modern i’r cyfanwaith, a’r cwbl wedi ei grynhoi’n effeithiol mewn un man hwylus. Mae fel pe bai pob darn o dystiolaeth yn cyfrannu’n llwyddiannus at greu darlun byw o’r dyn ac o’r cyfnod. Mae’n deyrnged deimladwy nid yn unig i Hedd Wyn ei hun ond i’w deulu a’i ffrindiau, ac yn fodd o gadw’r cof amdano'n fyw, yn enwedig o gofio bod yr Ysgwrn wedi ailagor i’r cyhoedd yn ddiweddar. Mwynhewch y darllen. - Hefin Jones @ www.gwales.com

You may also be interested in...

Oxford Gargoyles
Added to basket
Calum's Road
Added to basket
£8.99
Paperback
An Old Woman's Reflections
Added to basket
Oxfordshire Folk Tales
Added to basket
Njal's Saga
Added to basket
£10.99
Paperback
Folklore of Sussex
Added to basket
The Little Book of Sussex
Added to basket
Dorset Folk Tales
Added to basket
£12.99
Paperback
A Work of Beauty
Added to basket
A Walk Around the Snickelways of York
Added to basket
Glasgow A History
Added to basket
Lost Edinburgh
Added to basket
£14.99
Paperback
Sea Room
Added to basket
£10.99
Paperback

Please sign in to write a review

Your review has been submitted successfully.

env: aptum
branch: