Un Bywyd o Blith Nifer: Cofiant Saunders Lewis (Hardback)
  • Un Bywyd o Blith Nifer: Cofiant Saunders Lewis (Hardback)
zoom

Un Bywyd o Blith Nifer: Cofiant Saunders Lewis (Hardback)

(author)
£19.99
Hardback 432 Pages / Published: 04/08/2006
  • Publisher out of stock

Currently unavailable to order

This product is currently unavailable.

  • This item has been added to your basket
A comprehensive and revealing memoir of one of Wales's most prominent figures of the twentieth century. Every aspect of his life is examined perceptively and thoroughly, including his background and upbringing, his career, his political and moral principles, his religion and more. Book of the Year Short List 2007.

Publisher: Gomer Press
ISBN: 9781843237099
Number of pages: 432
Dimensions: 220 x 155 mm


MEDIA REVIEWS
Anaml iawn y ceir dau gofiant i unrhyw wrthrych yn y Gymraeg. Yn Saesneg ceir yn aml nifer o gofiannau ir un gwrthrych (bu cryn stwr yn y wasg Lundeinig yn ddiweddar am ddau gofiant i John Betjeman, ac enghraifft fechan ydyw hwnnw), ond yma Na. Y mae nifer o gewri lln a chrefydd y bedwaredd ganrif ar bymtheg na chafwyd cofiannau diweddar iddynt, yn rhannol am fod rhywrai wediu coffu yn union wediu marw, ond yn achos Saunders Lewis wele gofiant newydd sbon iddo lai nag ugain mlynedd ar l cyhoeddi o D. Tecwyn Lloyd gyfrol gyntaf ei Gofiant hirddisgwyliedig ef i SL (dair blynedd ar l ei farw), cyfrol a olrheiniai fywyd hyd at ganol y dauddegau mewn tri chant a hanner o dudalennau. Gan Robin Chapman cawn fywyd SL i gyd mewn pedwar can tudalen. Dichon y dywedir bod Saunders Lewis yn ddyn or fath faintioli fel ei fod yn haeddu dau gofiant. Yn sicr, gan na welwyd ail gyfrol Tecwyn Lloyd, yr oedd gofyn am gofiant llawn iddo. Pe na bai wedi llunio dim ond ei ragymadrodd, byddem yn ddwfn yn nyled Chapman: yno gesyd Lewis (chwedl yntau bob gafael) yn ei le fel beirniad esthetig a gwleidydd moesol a gafodd ddylanwad mor aruthrol ar haen bwysig or gymdeithas Gymraeg fel na ellir dadlau am na thraddodiad llenyddol na gwleidyddiaeth Cymru heb gyfeirio at ei syniadau ai weithredoedd ai ysgrifeniadau ef. Rhai od anghyffredin oeddynt, lawer ohonynt, od ac anghyffredin fel efe yn ei berson, fel y nodir yn y gyfrol drwyddi. Y gwr athrylithgar hwn a oedd yn wyr i Owen Thomas Lerpwl, un o dywysogion mawr y Methodistiaid, a droes at Eglwys Rufain yn nawnddydd ei ddylanwad gwleidyddol ar Gymru Anghydffurfiol, yr Eglwys y bun fflyrtio hi er ei ieuenctid, ac ai gwnaeth yn ei fan yn Ben Marchog o Urdd Sant Gregori, ni allai fod yn un ohonom, ys dywedir. Fel wyr i Dr Thomas yr oedd megis ar wahn; fel Pabydd yn llywyddu ar Blaid Cymru (fel y daethpwyd iw nabod) yr oedd yn fwy neilltuedig fyth: eto erbyn ei henaint yr oedd yn Gristion yr oedd credun anodd ganddo, fel gan y rhan fwyaf oi gyd-ddynion. Rhan ddoniol o ddifyr o lyfr Chapman ywr trafod byr ar ei gerdd Gweddir Terfyn a roes y fath fraw i Pennar Davies ac Aneirin Talfan Davies (tt. 370-372), a ddychrynodd am uniongrededd eu harwr. Ond y gwir amdani yw mai yn y darn barddoniaeth hwn am ymbalfaliad olaf pawb yn yr Angau y siaradodd SL huotlaf dros ei gyd-ddyn, oblegid fe rannodd ag ef brofiad syn brofiad dynol diwrthdro. Casbeth fyddai dweud mai gambl iddo oedd mentro i Eglwys Rufain yn ddeugain oed. Ond gambl, heb os, oedd llawer o bethau iddo. Megis dod yn genedlaetholwr o Gymro. Gambl ddiystyr, yn l natur gambl, neu yn hytrach gambl ddiesboniad. Er gwyched y disgrifiad yn y gyfrol hon o flynyddoedd ffurfiannol y Saunders ifanc, nid ywn gwbl eglur eto paham y dewisodd weithio yng Nghymru ac yna er mwyn Cymru. Ni charai hi fel yr oedd; yn bendifaddau ni charair Gymru gyfoes a ddehonglai ef iddoi hun; a phrin y gellir meddwl bod yn y dehongliad angharedig hwnnw ddigon o hadau gobaith i beri i neb ymorol amdani. . . . mawr ywr demtasiwn i roir ffidil yn y to a thewi am Gymru, meddai, t. 266. A gredodd erioed o gwbl y gellid gweddnewid y wlad a gasi ef ai throin Wrthffilistia Ddatddiwydiannol Gymraeg Berffaith? Go brin. Campus o draethiad yma yw hwnnw am ddefnydd Lewis o iaith sagrafennol wrth drafod ei wleidyddiaeth, llosgir Ysgol Fomio yn achos Pennod 9, a champus ywr dehongliad oi anerchiad yn y Llys yng Nghaernarfon fel ymarferiad mewn metaffuseg Gristnogol Aristotelaidd. Ceir yn y gyfrol drwyddi draw lawer o ddehongli call fel hyn: nodais ddehongliadau call ar dudalennau 231, 263-4, 276, 286-7, 298-290, 360 fel enghreifftiau. Ar dt. 286-7, beth a ddyfyd Chapman yw nad seicolegu rhad yn hollol yw dweud i Blodeuwedd ar dramu a ddaeth yn ei sgil gyflawni ym mywyd Lewis yr hyn na allasai gwleidyddiaeth na newyddiaduraeth moi wneud. Cafodd boblogi ei Gymru ei hun a phennu tynged ei thrigolion. Doeth ac ir dim. Yn yr un modd, ceir brawddegau na allaf bellach eu galwn ddim ond brawddegau Chapmanaidd, lle dyry inni raeadr o resymau am bethau neu feddyliau yn llif rhethregol, tt. 119-120, er enghraifft, a 123, a 171-2, et cetera. Gwn nad yw rhestru tudalennau o lawer o iws i ddarllenydd adolygiad ar y we, ond siawns nad ywr canmol ar y tudalennau hynnyn debyg o gyffroir darllenydd i chwilio am y gyfrol ac i chwilio am y darnau ardderchog hyn. Y mae ambell lithriad yn y gyfrol: nid i Gadair Gymraeg Abertawe yr aeth T. J. Morgan yn 1951 eithr i Gofrestrfa Prifysgol Cymru; fel George (nid Francis) yr adwaenid Fisher, sefydlydd Theatr Fach Llangefni; a Wilbert nid Wilbur (er bod yna Wilbur eithaf amlwg)oedd Lloyd Roberts y cynhyrchydd drama. Ond cyfrol iw hedmygu ydyw, ac iw blasu am rwyddineb ei deall a rhyfyg (weithiau) ei disgrifiad. Ysgrifennodd Chapman eisoes gofiannau i W. J. Gruffydd ac i Ambrose Bebb a chyfrol ar y dymer delynegol hwyr-Victorianaidd a oedd yn anathema gan y llenorion da hynny; y mae ei waith newydd ar Saunders Lewis yn ychwanegun fawr at ein hadnabyddiaeth angenrheidiol or genhedlaeth ddisglair honno a greodd y meddwl ar dychymyg Cymreig yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Derec Llwyd Morgan Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru

You may also be interested in...

Mortality
Added to basket
£7.99
Paperback
Into The Mountain
Added to basket
Devotion
Added to basket
£6.99
Paperback
Appointment in Arezzo
Added to basket
£8.99   £6.99
Paperback
Boy
Added to basket
Boy
£6.99   £5.49
Paperback
When I Hit You
Added to basket
£8.99
Paperback
The Rules Do Not Apply
Added to basket
Me. You. Not a Diary
Added to basket
The Pigeon Tunnel
Added to basket
I Know Why The Caged Bird Sings
Added to basket
£8.99   £6.99
Paperback
On Leopard Rock: A Life of Adventures
Added to basket
Going Solo
Added to basket
£6.99
Paperback
Jane Austen at Home
Added to basket
£9.99   £7.99
Paperback
Levels of Life
Added to basket
£7.99
Paperback
A Life of My Own
Added to basket
£9.99   £7.99
Paperback

Reviews

Please sign in to write a review

Your review has been submitted successfully.