Storm, Y (Paperback)
  • Storm, Y (Paperback)
zoom

Storm, Y (Paperback)

(author), (translator)
£6.95
Paperback 80 Pages
Published: 31/07/2012
Free UK delivery on orders over £25, otherwise £2.99
  • We can order this from the publisher

Usually dispatched within 2 weeks

Free UK delivery on orders over £25, otherwise £2.99
  • This item has been added to your basket

A translation of William Shakespeare's The Tempest, published to coincide with a production of the play by Theatr Genedlaethol Cymru at the 2012 National Eisteddfod in the Vale of Glamorgan.

Publisher: Cyhoeddiadau Barddas
ISBN: 9781906396497
Number of pages: 80
Dimensions: 1 x 1 mm


MEDIA REVIEWS

Mae 'Y Storm' yn gyfieithiad newydd o glasur Shakespeare. Dewisiwyd cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o'r ddrama hon (a berfformir mewn cydweithrediad ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru) i fod yn Rhan o Wyl Shakespeare y Byd (World Shakespeare Festival), sy'n un o Ddigwyddiadau'r Olympiad Diwylliannol eleni. Am fwy o fanylion am y ddrama, gweler gwefan Theatr Genedlaethol Cymru: http://www.theatr.com/cy/newyddion. Ar ynys anghysbell, mae storm yn corddi a chyfle o’r diwedd i frawd ddial ar frawd. Mae Ariel yn barod i dalu’r pwyth yn ôl gyda chorwynt a dŵr a thân. Ar fôr tymhestlog, gweddïa Antonio am ei einioes, wrth i Prospero wylio’r cyfan o’r tir. Mae chwerthin ac ofn, hunllef a dryswch yn arwain creaduriaid truenus o orffennol Prospero ar ffair wyllt o gwmpas yr ynys wrth iddo wneud yn siŵr, trwy hud a lledrith a phŵer ei holl enaid, fod y wers wedi’i dysgu. The Tempest oedd y ddrama olaf i Shakespeare ei chyfansoddi. Cyfleir holl gynildeb a dyfeisgarwch y clasur hwn yn addasiad newydd Gwyneth Lewis ar gyfer Theatr Genedlaethol Cymru. - Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas

Mae yna draddodiad hir o gyfieithu gweithiau mawr yr iaith Saesneg i’r Gymraeg. Yn ôl rhai, proses sydd o reidrwydd yn colli swyn a rhai o haenau ystyr y testun gwreiddiol yw cyfieithu llenyddiaeth, ond mae’r cyfieithiadau mwyaf crefftus yn rhai sy’n medru cyfoethogi ystyr gwaith. Mae gan gyfieithydd y grym i ailddychmygu gwaith llenyddol, gan ei agor i holl ddylanwadau cymdeithasol a diwylliannol iaith arall. Mae Gwyneth Lewis yn llenor sy’n hollol ymwybodol o’r broses hon, fel un sydd wedi ymdrin â’i dwyieithrwydd yn greadigol ar hyd ei gyrfa lenyddol, ac roedd penderfyniad Theatr Genedlaethol Cymru i’w chomisiynu i greu cyfieithiad newydd o The Tempest gan William Shakespeare yn un ysbrydoledig. Does dim syndod, felly, mai ‘addasiad’ yw Y Storm yn hytrach na ‘chyfieithiad’. Yn ei ragarweiniad difyr i’r gyfrol, mae cyfarwyddwr artistig y Theatr Genedlaethol, Arwel Gruffudd, yn ategu’r pwynt gan ofyn ‘onid addasiad, mewn gwirionedd, yw pob cyfieithiad o destun celfyddydol?’ Camp fwyaf yr addasiad hwn yw’r modd y mae Gwyneth Lewis yn defnyddio iaith fodern ddealladwy i ddehongli’r ddrama brydferth a grymus hon o’r newydd ar gyfer cynulleidfa Gymraeg, gan lynu at galon farddonol y gwaith Shakespearaidd gyda’i rythmau mydryddol a’i ymadroddion trosiadol yr un pryd. Plethir ieithwedd lafar a thafodieithol gydag ymadroddion sy’n cyfleu naws fwy urddasol barddoniaeth yr areithiau. Mae ymdeimlad naturiol bardd at fydr hefyd yn amlwg yn y gwaith. Dyma sut y cyfieithodd Gwyneth Lewis gân Ariel yn yr act gyntaf: Yn y dyfnder mae dy dad, Cwrel yw ei esgyrn o; Dyna berl lle bu ei lygad, Mae pob elfen sydd yn gwywo Yn trawsnewid fel y môr Nid trengi ond troi’n drysor. O edrych ar y llinellau gwreiddiol mae arddull ac ymagwedd yr awdur at y dasg o gyfieithu testun llenyddol yn amlwg. Full fathom five thy father lies; 
 Of his bones are coral made; 
 Those are pearls that were his eyes: 
 Nothing of him that doth fade, 
 But doth suffer a sea-change 
 Into something rich and strange. Mae’n cadw’n driw i ystyr geiriau Shakespeare heb gyfaddawdu ar yr angen i greu gwaith sy’n sefyll ar ei draed ei hunan fel gwaith llenyddol Cymraeg. - Sioned Williams @ www.gwales.com

You may also be interested in...

On Writing
Added to basket
Paperback
£10.99
If Not, Winter: Fragments Of Sappho
Added to basket
Collected Poems
Added to basket
Paperback
£18.99
Selected Writings
Added to basket
Paperback
£16.99
Essays
Added to basket
Paperback
£14.99
The Three Theban Plays
Added to basket
Nicholas Nickleby
Added to basket
The Histories
Added to basket
Paperback
£10.99
Country Girl
Added to basket
Paperback
£12.99
Persuasion
Added to basket
Paperback
£5.99
The Mighty Dead
Added to basket
Paperback
£10.99
Macbeth
Added to basket
Paperback
£8.99
The Picture of Dorian Gray
Added to basket
Selected Poems of Sylvia Plath
Added to basket
Great Expectations
Added to basket

Please sign in to write a review

Your review has been submitted successfully.