Trasiedi Roegaidd sy'n portreadu cymeriadau ac emosiynau mewn tyndra eithafol yw Medeia. Mae'r ffigwr mytholegol Medeia – hithau’n wyres i'r haul, yn ddewines – yn syrthio mewn cariad efo Iason ac yn defnyddio'i hud i'w gynorthwyo i gyflawni tasgau goruwchnaturiol. Mae'r canlyniadau, yn anorfod, yn drasig. Ond mae'r ddrama hon yn fwy na thrasiedi am ddial arbennig o waedlyd. Mae'n archwilio'r erchyllterau sy'n digwydd o ganlyniad ymgais meidrolyn, a rhywun sydd heb fod yn feidrol, i gyd-fyw mewn byd sy'n gyffredin i'r ddau ohonynt gan edrych ar 'Sut y gall nwyd merch (ddwyfol) gyd-fyw â rhesymeg dyn'. Mae'r ddrama hefyd yn edrych ar y modd y mae Medeia yn agored i gael ei chlwyfo gan frad dynol. Fel y nodir yn y cyflwyniad i'r ddrama am Euripedes, 'Prin yw'r dramâu sy'n dangos yn fwy eglur ddyfnder y cymeriadu, ffyrnigrwydd y sefyllfa a'r arddull gythryblus sydd mor nodweddiadol o'i waith.'
I ni heddiw mae'r ddrama fer hon hefyd yn codi cwestiynau ynghylch twyll a bod yn driw i chi eich hun, ac mae modd hefyd i gynulleidfa fodern ei dehongli o safbwynt edrych ar rôl merched a dynion, a chroesdynnu hiliol.
Publisher: Cyhoeddiadau Barddas
ISBN: 9781906396992
Number of pages: 72
Dimensions: 175 x 125 mm
Cafodd y ddrama ei chomisiynu ar y cyd rhwng CBAC a Theatr Genedlaethol Cymru. Mae'n rhan o fanyleb UG Drama CBAC am y pum mlynedd nesaf. - Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Please sign in to write a review
Would you like to proceed to the App store to download the Waterstones App?