Lon Fain (Paperback)
  • Lon Fain (Paperback)
zoom

Lon Fain (Paperback)

(author)
£7.95
Paperback 80 Pages
Published: 01/11/2013
  • We can order this from the publisher

UK delivery within 4-5 weeks

  • This item has been added to your basket
Dafydd John Pritchard's second volume of poetry comprises poems in both strict and free verse reflecting piercing comments on society.

Publisher: Cyhoeddiadau Barddas
ISBN: 9781906396640
Number of pages: 80
Dimensions: 138 x 216 mm


MEDIA REVIEWS
Yn 2010 enillodd Dafydd Pritchard ysgoloriaeth yr Academi a ffrwyth y cyfnod hwn i ffwrdd o'i waith bob dydd yw'r adran 'Cerddi Belmont' - casgliad myfyrgar gan Babydd sy'n mynnu cwestiynu. Dyma gyfrol o gerddi, meistrolgar, cynnil am ein byw a'n bod bob dydd. -- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Yn ei waith beunyddiol fel rheolwr Archif Sgrin a Sain y Llyfrgell Genedlaethol mae Dafydd Pritchard wrthi'n dawel yn rhoi ar gof a chadw ac yn diogelu rhai o'r eiliadau prin hynny sy'n esbonio pwy ydym ac yn adrodd ein stori fel pobl. Yn yr un modd yn y gyfrol hon mae'r bardd-archifydd yn cofnodi'n dawel ambell garreg filltir ar ei siwrne bersonol o Nant Peris i Lanbadarn Fawr ar sgrin a sain ei awen glywedol. Rhwng llinellau'r cerddi deuwn i'w adnabod yn well. Cawn ddilyn y Lon Fain yng nghysgod copaon gwyn y Garn a'r Glyder ym mro'i febyd hyd at gaffis y prom yn Aberystwyth, lle caiff gyfle i fyfyrio wrth wylio'r haul yn machlud a'r dydd yn diflannu dros y mor tragwyddol. Ar y daith synhwyrus hon cawn flasu llaeth enwyn a mwyar duon hen ffordd o fyw a chyfarfod a'i ddiweddar frawd, Alan, i'r hwn y cyflwynir y gyfrol er cof amdano. Tywysir ni hefyd ar nifer o deithiau tramor ac mae'r cardiau post o gerddi o gyfandir Ewrop yn cyfoethogi'r gyfrol. Ymateb bardd a geir ynddynt yn hytrach nag ailbobiad o lawlyfr y twrist. Fel T. H. Parry-Williams ac Iwan Llwyd o'i flaen, mae'r lon tua'r gorwel yn denu. Cyflwynir ni hefyd i rai o'i gymdeithion. Ef, bellach, yw bardd llys byrddau gwledd y Llyfrgell Genedlaethol a cheir yma nifer o gerddi cyfarch i rai o gymeriadau'r sefydliad hwnnw yn nhraddodiad gorau'r canu mawl. Ac yn ogystal, yn null y bardd cymdeithasol, fe gofir yn dyner am ambell un a gollwyd ar y daith. Ar ben hynny cawn fraslun o'r map ysbrydol a'i harweniodd ar y bererindod o gapel yr Hen Gorff yn Nant Peris hyd at yr Eglwys yn Rhufain. Ar y ffordd geilw heibio am egwyl yn Abaty'r Brodyr Llwydion ym Melmont yn swydd Henffordd, yn y gobaith o fedru clustfeinio ar y geiriau cudd a gwyd o dawelwch mynachdy. Mae'n gwmni difyr. Mwynhewch ei ddiwylliant eang a'i hiwmor cynnil wrth gydgerdded y Lon Fain. -- Idris Reynolds @ www.gwales.com

You may also be interested in...

Metamorphoses
Added to basket
£8.99
Paperback
The Prophet
Added to basket
£8.99
Paperback
Metamorphoses
Added to basket
£8.99
Paperback
Beowulf
Added to basket
£10.99
Paperback
Paradise Lost
Added to basket
£8.99
Paperback
The Adoption Papers
Added to basket
£10.99
Paperback
Collected Poems
Added to basket
£18.99
Paperback
The Iliad
Added to basket
£9.99
Paperback
The Odyssey
Added to basket
£16.99
Hardback
Selected Poems
Added to basket
£16.99
Paperback
The Divine Comedy
Added to basket
The Lais of Marie De France
Added to basket
Arthurian Romances
Added to basket
Inferno: The Divine Comedy I
Added to basket
Selected Poems
Added to basket
£10.99
Paperback

Please sign in to write a review

Your review has been submitted successfully.

env: aptum
branch: